...

AILDDYCHMYGU

Stori Llanelli

Croeso i

LLANELLI

Stori ein tref ni ydy hon. Llanelli. Cyflwyniad i’r hyn sy’n ein gwneud ni’n arbennig Y lle a’r bobl Ein gorffennol, ein presennol a’n dyfodol. Rydyn ni’n gobeithio y byddwch chi’n awyddus i wybod mwy..

...

Dyma Lanelli.
Dyma ailddychmygu.

Mae ein stori yn stori am newid. O fryngaer i borthladd glo. O’r diwydiant tun i dwristiaeth. O ddiwydiannau trwm i ddiwydiannau creadigol. O Llanelly i Lanelli! Ond drwy gydol y newid hwn, mae rhai pethau’n aros yr un fath. Ein hymdeimlad o berthyn a’n hagosatrwydd. Ein cariad at ddiwylliant, a’r celfyddydau. Ein hymrwymiad i sefyll i fyny drosom ni ein hunain a thros yr hyn sy’n iawn. Ac mae ein bryd ar ennill o hyd, ar y cae rygbi ac ym mhob peth.

...

Oeddech chi’n gwybod?

Ystyr yr enw Llanelli ydy eglwys y Santes Elli. Gan ddibynnu ar ba gyfrif rydych wedi’i ddarllen, roedd Elli naill ai’n fenyw neu’n wryw. Ond yn ôl un chwedl, roedd Elli yn ferch neu’n wyres i’r Brenin Brychan. Sefydlodd Elli eglwys ar lannau Afon Lliedi. Newidiwyd yr enw yn swyddogol o Llanelly i Llanelli yn 1966.

...
...

Dyfeisgarwch = AIILDDYCHMYGU

Mae cadernid y dref, ein gallu i ymateb, goresgyn heriau a dod o hyd i swyddogaeth newydd wedi cadw’r lle, yn gryf. Wastad yn ddyfeisgar, rydyn ni’n derbyn newid ac yn symud ymlaen. Heddiw rydyn ni’n adfywio’r amgylchedd ac yn cofleidio diwydiannau newydd.

Mae ysfa barhaus ynom i adnewyddu o hyd. Wrth i dwristiaeth a thechnoleg gymryd lle diwydiannau trwm, mae pobl unwaith eto’n cael eu denu i’r ardal i fyw, ymweld a gweithio.

Cynnyrch o Gymru

Mae Llanelli wastad wedi gwneud pethau. Roedd stribed hir o ffatrïoedd, ffowndrïau, melinau ac odynau ar hyd yr arfordir ers talwm. O fân olwynion ar gyfer clociau, i olwynion cerbydau. O grochenwaith i haearn a dur. Gwnaed y rhain i gyd yn Llanelli. Ond beth sy’n gwneud Llanelli? Rydyn ni’n credu bod yna elfen hanfodol, talp o DNA, yr elfen sy’n ein clymu gyda’n gilydd. Cymreictod yw’r elfen arbennig honno.

...
...
...

Oeddech chi’n gwybod?

Roedd crochenwaith Llanelli, a gynhyrchid rhwng 1839 a 1922, yn cael ei werthu ledled Ewrop, America a hyd yn oed Awstralia?Mae’n dal i fod yn gasgladwy iawn, yn enwedig y llestri llun ceiliog eiconig a beintiwyd â llaw, sy’n nodweddiadol o Lanelli.

...

Lle mae Cymru’n Dod Ynghyd

Dyma lle daw Cymru ynghyd. Lle mae’r dwyrain yn cwrdd â’r gorllewin. Lle mae’r Gymru ddiwydiannol yn cwrdd â’r Gymru wledig. Lle mae’r cymoedd bron yn cyrraedd y môr. A lle byddwch yn clywed y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg yn cael ei siarad mewn cartrefi, tafarndai ac yn y farchnad. Mae bron popeth yr ydych chi’n eu cysylltu â Chymru i’w gweld yn Llanelli.

Pobl Angerddol

Ond os yw rhywbeth yn werth ei wneud, mae’n werth ei wneud yn iawn. Gwybod beth mae arnon ni eisiau ei wneud a gwneud hynny’n llawen. Rydyn ni’n sefyll dros Lanelli a thros ein gilydd. Byth yn llugoer. Dim hanner ffordd.

Efallai fod yr angerdd hwn yn mynd yn ôl i’n traddodiad anghydffurfiol. Yn Llanelli, gwelwyd llawer pregethwr tanbaid ym mhulpud Y Tabernacl, Siloah, Bethal a Chalfaria. Mae llawer o’r capeli’n adeiladau rhestredig.

Mae gennym farn gref am achosion hefyd. Dangosodd Terfysgoedd y Rheilffyrdd a Helyntion Beca y byddwn yn ein hamddiffyn ein hunain rhag anghyfiawnder ac yn sefyll dros ein credoau.

Ni yw Llanelli

Mae’r gymuned yn bwysig yn Llanelli. Felly y bu hi erioed ac felly y bydd hi hefyd. Gofalu am ein gilydd. Mewn undeb mae nerth. Ymdeimlad o berthyn. Dewch i fod yn rhan o’r cyfan. Mae croeso i bawb cyn belled â’ch bod chi’n cefnogi’r Sgarlets!

Mae’r Sgarlets wedi bod yn un o’r rhanbarthau rygbi mwyaf llwyddiannus er mai dim ond tua 40,000 yw poblogaeth y dref ei hun. Efallai fod hynny’n dweud rhywbeth am y gymuned a’r teimlad o berthyn yn Llanelli.

"Mae yna ymdeimlad o falchder yn Llanelli. Gellir cysylltu hyn â’r gwaith tun. Yr arwydd gorau o’r balchder a’r undod hwn yw’r Sgarlets. Pa un ai Cymraeg neu Saesneg yw iaith y bobl, maen nhw’n dal i ganu ‘Yma O Hyd’ a ‘Hen Wlad fy Nhadau"
Ymgynghoriad Cynllun Lle Arbennig Llanelli 2020

...
...

Arloesi o hyd

Efallai mai ein traddodiad anghydffurfiol sy’n cyfrif am hynny, ond rydyn ni’n hoff o herio hen ffyrdd o feddwl a herio’r status quo. Gellid dweud bod dyfeisgarwch yn nhoriad ein bogail. Cafodd olwyn sbâr gyntaf y byd – Olwyn Sbâr Stepney – ei chreu yma: dim ond un o blith llawer o’r cynhyrchion arloesol sy’n gysylltiedig â’r ardal. Nid yw’n syndod, felly, mai yma yr agorwyd y can cyntaf o gwrw ym Mhrydain. Iechyd da i arloeswyr y gorffennol a’r presennol a ddewisodd alw Llanelli’n gartref.

Can Cwrw Cyntaf Prydain
Mae sipian cwrw o gan yn eithaf normal heddiw. Ond yn y 1930au, roedd y syniad yn chwyldroadol. Bragdy Felinfoel oedd y cyntaf ym Mhrydain i werthu cwrw mewn can. A Llanelli’n gartref tunplat ym Mhrydain, nid yw’n syndod mai’r bragdy lleol oedd y cyntaf i fabwysiadu’r syniad. Ond roedd hi’n agos. Roedd Buckley’s, bragdy lleol arall, hefyd yn y ras i gynhyrchu can cwrw cyntaf Prydain. Allwedd eu llwyddiant oedd atal y cwrw rhag adweithio gyda’r metel drwy orchuddio’r tu mewn i’r caniau â chwyr.

Olwyn Stepney
Dyfeisiwyd Olwyn Sbâr Stepney yn Llanelli yn 1904. Cyn hynny, roedd ceir yn cael eu cynhyrchu heb olwynion sbâr. Cafodd T. Morris Davies y syniad gwych o wneud olwyn heb sbôcs a rhoi teiar llawn arni. Tyfodd y busnes yn gyflym iawn gydag asiantaethau ar draws y byd. Yn 1909, gosodwyd Olwyn Sbâr Stepney ar bob tacsi yn Llundain ac yn y pen draw symudodd y busnes ei hun i Lundain i ymdopi â’r galw. Yn y man, dechreuodd gwneuthurwyr ceir ddarparu olwynion sbâr gyda’u ceir, a dechreuodd gwerthiant y Stepney ddirywio. Er hynny, mae’r enw’n fyw o hyd. Mae “stepney” yn dal i fod yn enw bob dydd ar olwyn sbâr yn India, Bangladesh, Malta a Brasil, lle mae’n cael ei galw’n “estepe”.

Tinopolis

Yn y 18fed a’r 19eg Ganrif tyfodd Llanelli’n gyflym iawn i fod yn un o’r trefi diwydiannol mwyaf yng Nghymru. Daeth Llanelli yn adnabyddus fel Tinopolis oherwydd swm anhygoel y tunplat a gynhyrchid yma.

Dechreuodd Gwaith Tunplat Dafen gynhyrchu yn 1848. Erbyn canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, de-orllewin Cymru oedd y rhanbarth a gynhyrchai’r mwyaf o dunplat y byd. Erbyn diwedd y ganrif roedd tuag ugain o weithfeydd tunplat yn Llanelli a’r cyffiniau, a oedd yn cynhyrchu 90% o dunplat y byd. Y farchnad fwyaf oedd yr UDA a oedd yn mewnforio tua 75% o’r tunplat a gynhyrchid. Yn 1900 roedd tua 5000 o bobl yn gweithio yn y diwydiant tunplat. Roedd hyn yn gyfran enfawr o boblogaeth y dref, sef 20,000.

O Dinopolis i Dinopolis ...
Heddiw, grŵp cynhyrchu a dosbarthu teledu rhyngwladol yw un o’r cwmnïau mwyaf llwyddiannus yn Llanelli. Maen nhw’n creu pob math o raglenni, o raglenni adloniant a rhaglenni ffeithiol arobryn, i dramâu a ganmolir gan y beirniaid a rhaglenni chwaraeon byw arloesol. Nid yw felly’n syndod bod y cwmni wedi dewis yr enw Tinopolis, arwydd o’u balchder yn yr ardal leol.

...

Oeddech chi’n gwybod?

Mae pobl o Lanelli yn cael eu galw’n Dwrcs, ond does neb yn gwybod yn iawn pam. Mae un o’r damcaniaethau mwyaf poblogaidd yn gysylltiedig â’r gwaith tunplat. Roedd cynhyrchu tunplat yn waith caled a chwyslyd. Oherwydd y gwres byddai’r gweithwyr yn lapio tyweli o gwmpas eu pennau i amsugno’r chwys. Roedd y tyweli hynny’n debyg i dyrban, a dyna darddiad y llysenw Twrcs.

Cariad at rygbi

Llanelli yw un o drefi rygbi enwocaf y byd. Ac mae rygbi yn rhan allweddol o ddiwylliant Llanelli.

Digwyddodd y cyfarfod i drafod ffurfio’r clwb yn yr Athaneaum yn y dref, yn hydref 1875, a chwaraewyd y gêm gyntaf ym mis Ionawr 1876, yn briodol yn erbyn eu gelynion pennaf, Abertawe. Roedden nhw’n arfer chwarae ym Mharc y Strade, cae enwog a llawn atgofion. Erbyn hyn, maen nhw’n rhannu cae gyda’r Sgarlets, y rhanbarth rygbi proffesiynol, ac yn chwarae ym Mharc y Sgarlets ym Mhemberton.

Heddiw, mae’r Sgarlets yn adeiladu ar sail treftadaeth rygbi gyfoethog Llanelli ac yn hyrwyddo enw’r dref ledled Ewrop a’r byd. Mae cefnogwyr rygbi Llanelli yn enwog am eu cefnogaeth angerddol i’w tîm... ac am eu canu.

Sospan Fach
Efallai mai’r gân a gysylltir fwyaf â rygbi Llanelli yw Sosban Fach. Mae’n un o’r caneuon Cymraeg mwyaf adnabyddus ac yn un o’r rhai sy’n cael eu canu amlaf. Daw cysylltiad Llanelli â Sosban o’r diwydiant tunplat a ddarparai sosbenni i Brydain gyfan. Gellir gweld y Sosban hyd heddiw ar ben y pyst gôl ym Mharc y Scarlets.

Yfed y tafarnau’n sych.
Efallai mai’r diwrnod enwocaf yn hanes rygbi Llanelli yw 31 Hydref 1972, sy’n fwy adnabyddus fel “y Diwrnod yr yfwyd y tafarnau’n sych”. Ar y diwrnod hwn, y curodd y Sgarlets y Crysau Duon. Mae’r diwrnod a’r sgôr 9-3 yn rhan o chwedloniaeth rygbi. Mae 9-3 yn deitl cân gan y canwr a’r bardd enwog, Max Boyce.

......

Llanelli ger y môr

Mae Llanelli ar arfordir gogleddol Aber Afon Llwchwr, sy’n llifo i Fae Caerfyrddin a Môr Hafren. Roedd lleoliad arfordirol Llanelli yn un o’r prif resymau pam y datblygodd y dref yn dref ddiwydiannol mor bwysig.

Roedd Llanelli a Phen-bre yn borthladdoedd am gannoedd o flynyddoedd, ac mae llawer o adeiladau ac enwau lleoedd wedi goroesi hyd heddiw sy’n ein hatgoffa o dreftadaeth forwrol yr ardal. Datblygodd Porth Tywyn fel porthladd i allforio glo a gloddiwyd yng Nghwm Gwendraeth a phyllau glo eraill yn y cyffiniau. Heddiw mae’r dref wedi troi i wynebu’r môr unwaith eto, ond bellach nid glo, tun a chopr sy’n ymlwybro tua’r arfordir, ond ymwelwyr. Mae pobl yn heidio i gerdded Llwybr yr Arfordir a mwynhau ein traethau eang.

...
...
...
...

Cymuned o Gymunedau

Mae Llanelli yn dref ac yn gasgliad ehangach o bentrefi. Roedd rhai yn gymunedau glofaol, a rhai yn bentrefi a phorthladdoedd pysgota. Ond gyda’i gilydd maen nhw’n ffurfio “Llanelli Fwyaf”.

"Môr a chefn gwlad yn cofleidio casgliad o bentrefi. Gyda’i gilydd, mae ganddynt ymdeimlad cryf o hunaniaeth a chysylltiad."
Ymgynghoriad Cynllun Lle Arbennig Llanelli 2020

...
...
...

Am berfformiad! What a

Dros y blynyddoedd, mae Llanelli wedi meithrin enw da ym maes celfyddydau gweledol a pherfformio; y cyfryngau creadigol; llenyddiaeth; a cherddoriaeth. Mae’r nifer fawr o gymdeithasau cerddorol, corawl a dramatig lleol yn yr ardal yn dyst i hyn. P’un ai a yw’n un o ddigwyddiadau Ymlaen Llanelli neu’n berfformiad yn Theatr y Ffwrnes, mae pobl y dref yn dal i fwynhau sioe wych ac mae nifer fawr yn mynychu i gefnogi diwylliant a chreadigrwydd yn y dref.

Maniffesto’r Dyfodol

Ni yw Llanelli. Yn falch o’n gorffennol ac yn hyderus ar gyfer y dyfodol. Mae’r byd yn newid ac fe wnawn ni ymateb. Bydd ein cydnerthedd a’n dyfeisgarwch yn ein helpu i ailddychmygu Llanelli. Fe wnawn ni drawsnewid o ddiwydiannau trwm i ddiwydiannau creadigol a thechnoleg. Fe wnawn ni chwistrellu bywyd newydd i ganol y dref. Ac ailgysylltu ein tref â’r arfordir a’r harddwch sydd o’n cwmpas. Fe wnawn ni ddod â chymunedau at ei gilydd. Dathlu ein cariad at y celfyddydau, cerddoriaeth a diwylliant. Ac fe wnawn ni rannu stori Llanelli â’r byd. Rydyn ni’n hoffi ennill ac rydyn ni’n wastad wedi cystadlu gyda’r goreuon. Fydd hyn ddim yn newid yn y dyfodol. Byddwn ni’n datblygu â brwdfrydedd. A byddwn ni’n ei wneud gyda’n gilydd. Llanelli. Yma o hyd. Ymlaen.